Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan adran 11(1) Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010:
· yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn asesiad awdurdod lleol o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal;
· yn nodi'r unigolion a'r grwpiau y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy;
· yn nodi bod gofyniad bod pob awdurdod lleol yn llunio cynllun gweithredu fel rhan o'r asesiad;
· yn darparu ynghylch amlder yr asesiadau, a'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gyhoeddi canlyniadau'r asesiadau.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn: mae’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
· Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Trydydd Cynulliad yr adroddiad ar ei ymchwiliad i 'fannau diogel i chwarae a chymdeithasu'. Yn argymhelliad cyntaf yr adroddiad, anogodd y Pwyllgor Lywodraeth Cymru:
“...i gwblhau ei hadolygiad o'r safonau a'r canllawiau ar gyfer chwarae cyn gynted â phosibl... Dylai'r canllawiau gynnwys diffiniad clir o 'chwarae' sy'n cynnwys chwarae wedi'i strwythuro a chwarae dirwystr... [Ein pwyslais ni].
· Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor, ac eglurodd:
“Greater clarification will be provided on the meaning of ‘play’ and the term will be sufficiently broad to include both ‘structured’ and ‘free play’.”
· Mae paragraff 8.2 yn y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau drafft, ac mae'n nodi ei bod yn bosibl bod cyfran sylweddol (cynifer â 56%) o'r rhai a ymatebodd yn dymuno i'r rheoliadau fod yn fwy eglur. Nododd hefyd: “The respondents who wanted greater clarity were primarily concerned about the relation between freely chosen play and adult led recreational activities.”
· Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan: “The summary report responds to this concern in more detail”; “the Regulations and the Statutory Guidance have been amended accordingly ”; ac “A summary of the amendments…has been made available on the Welsh Government’s web site.”
· Yn anffodus, fel ar 18 Hydref 2012, nid ydym wedi gallu cael hyd i’r adroddiad cryno ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, nid yw'n glir a yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn llwyr â'r argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r pryderon a fynegwyd gan y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft.
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Hydref 2012